Landscapes Wales
Effaith Flynyddol Ffermio Bro 2025/26

Effaith Flynyddol Ffermio Bro 2025/26

Mae’n bleser gan Tirweddau Cymru gyhoeddi adroddiad Effaith Flynyddol Ffermio Bro 2025/26.

Mae’r adroddiad yn rhannu manylion y ffyrdd sylweddol mae Ffermio Bro wedi helpu ffermwyr ar draws Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru i wneud newidiadau sydd o fudd i fyd natur a’r amgylchedd yn ystod y flwyddyn.

Drwy’r cynllun, dyfarnwyd grantiau a ddaeth i gyfanswm o £1.52m, gan gefnogi 200 o ffermydd, plannu dros 83,000 o goed a helpu i wneud 21km o afonydd a nentydd yn fwy glân ac yn fwy iach. Mae’r adroddiad yn cynnwys rhagair gan Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd – ochr yn ochr ag astudiaethau achos ar gyfer detholiad o’r nifer fawr o brosiectau cydweithredol ar raddfa tirwedd a gefnogwyd gan y cynllun hyd yma.

 

Mae’r fersiwn Gymraeg ar gael yma

Mae’r fersiwn Saesneg ar gael yma