Landscapes Wales
Datgarboneiddio Tirweddau Dynodedig Cymru

Datgarboneiddio Tirweddau Dynodedig Cymru

Mae Tirweddau Cymru Landscapes Wales yn dod ag Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNEau) a Pharciau Cenedlaethol Cymru ynghyd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau lleihau allyriadau yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac wedi diweddaru hynny yn 2021 i gynnwys ymrwymiad cyfreithiol i gyrraedd sero net o ran allyriadau tiriogaethol erbyn 2050[1].

Rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050, ac mae hyn yn cynnwys yr AHNEau a’r Parciau Cenedlaethol, fel sefydliadau ac fel ardaloedd daearyddol. Er mwyn rhoi arweiniad yn hyn o beth, gan gydweithio fel Tirweddau Cymru Landscapes Wales (TCLW), gwnaethon nhw gomisiynu Small World Consulting (SWC) i lunio adroddiadau asesu nwyon tŷ gwydr ar gyfer pob un o’r tirweddau dynodedig yn ogystal ag adroddiad trosolwg cryno.

Dywedodd Cadeirydd TCLW a Phrif Swyddog Gweithredol Parc Cenedlaethol Eryri, Emyr Williams:

“Mae’r adroddiadau’n rhoi sylfaen tystiolaeth i ni, ac argymhellion ar gyfer camau gweithredu ym mhob un o’n tirweddau. Mae’r gwaith hwn yn gyfle gwych i ni hyrwyddo ein gweledigaeth o ddatgloi potensial tirweddau dynodedig i gyflawni mwy o ran yr hinsawdd, yn ogystal ag ar gyfer natur a phobl.

“Rydyn ni’n gwybod bod hyn yn heriol. Dyma ddechrau ein taith i leihau ein hallyriadau a helpu i baratoi ar gyfer effeithiau hinsawdd heriol. Byddwn ni’n gwneud hyn yn agored a gyda’n partneriaid, does dim modd i ni wneud hyn ein hunain, ac mae’n rhaid i ni sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl.”

Dywedodd Jessica Morgan, Pennaeth Datgarboneiddio Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i leihau ein hallyriadau carbon ac mae’r argymhellion yn adroddiad SWC yn hoelio sylw ar y camau y mae angen eu cymryd i’n rhoi ni ar y llwybr tuag at sero net. Mae’n bwysig cofio y bydd nifer o ffynonellau allyriadau yn ein tirweddau y tu hwnt i’n rheolaeth, gan gynnwys allyriadau o fusnesau, ymwelwyr yn teithio, amaeth, a dewisiadau unigolion. Mae hynny’n golygu ei bod yn bwysicach fyth i ni fel teulu tirweddau edrych ar ffyrdd o weithio gyda’n holl gymunedau ar hyn – y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn teithio i’n tirweddau.”

Dywedodd Dmitry Yumashev, Prif Ymgynghorydd ac arweinydd Defnydd Tir yn SWC:

“Er bod gan bob un o dirweddau dynodedig Cymru set unigryw o nodweddion, mae yna nifer o ffactorau a themâu cyffredin sy’n cynnig cyfleoedd iddyn nhw weithredu ar y cyd a gyda’u partneriaid. Mae’r rhain yn cynnwys torri allyriadau o adeiladau a thrafnidiaeth, lleihau ôl-troed bwyd ac amaeth, cyflwyno rhaglenni adfer natur, ac ymgysylltu ag ymwelwyr, trigolion a busnesau er mwyn lleihau eu hôl-troed. Gallai tirweddau dynodedig Cymru fod yn arloeswyr o safbwynt ymdrin â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, gan ysbrydoli tirweddau eraill yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig ac o gwmpas y byd i wneud yr un peth.”

Mae’r adroddiad cyfunol yn benllanw dwy flynedd o waith, a chafodd ei gyflwyno i’r tirweddau dynodedig cyn cael ei gyhoeddi yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru 2023.

Darllen mwy: Datgarboneiddio Tirweddau Dynodedig Cymru

[1] https://www.llyw.cymru/cymru-sero-net.