Landscapes Wales
Rheoli tir ar gyfer byd natur a newid hinsawdd

Rheoli tir ar gyfer byd natur a newid hinsawdd

Mae prosiect rheoli tir sy’n cymryd camau ar yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd wedi derbyn cymorth ariannol gan y Gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy drwy Lywodraeth Cymru a Tirweddau Cymru.

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi derbyn cyllid i brynu a rheoli tir ar gyfer dal a storio carbon. Mae tua 30 erw o dir arfordirol yn Nhrefin wedi’i brynu, oedd yn cael ei ddefnyddio cyn hynny fel tir pori organig, a bydd yn cael ei adfer i wella bioamrywiaeth a chyfrannu at ddatgarboneiddio drwy atafaelu carbon.

Mae’r Awdurdod fel arfer yn berchen ar, neu’n prydlesu’r lleiafswm o ystâd sydd ei angen i gyflawni ei ddibenion. Fodd bynnag, mae cymryd camau i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac adfer byd natur yn darged allweddol i’r Parc Cenedlaethol, ac mae prynu’r tir hwn wedi galluogi’r safle gael ei reoli am byth ar gyfer bioamrywiaeth a dal a storio carbon sy’n golygu manteision cadarnhaol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae’r tir yn ffinio â phentref Trefin, sy’n lleoliad arfordirol gwych o werth uchel o ran y dirwedd a hefyd o ran ehangu cyfleoedd mynediad, gwyddor dinasyddion ac adnoddau addysg, ac ymchwilir i bob un o’r cyfleoedd hyn. Hefyd bydd y prosiect yn helpu i wella mynediad, yn lle cael lôn gul sy’n arwain allan at dir y clogwyni (sy’n eiddo i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol), gall ardal fawr agored o’r llain arfordirol fod ar agor. Hefyd mae potensial ar gyfer gwaith gwirfoddoli cymunedol wrth i’r safle ddatblygu.

Y gobaith yw y bydd y gwaith adfer cynefinoedd yn Nhrefin nid yn unig yn gwella bioamrywiaeth ond hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at weithredu ar newid hinsawdd.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn nawdd gan y Gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy drwy Lywodraeth Cymru a Tirweddau Cymru.

Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy yn rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf ar draws yr wyth o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru, sy’n eu galluogi i gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer byd natur, gan gyflymu datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd a darparu twristiaeth gynaliadwy.