Camerâu hen ffasiwn wedi’u gosod i grisialu’r newid yn y tirweddau drwy eich camera
Mae tri chamera ‘man sefydlog’ o fath hen ffasiwn wedi’u gosod ar hyd a lled Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fel rhan o brosiect gwyddoniaeth dinasyddion i gofnodi’r newid yn y dirwedd, diolch i gymorth gan y Gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy.
Mae camerâu ar safle Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Parc Gwledig Loggerheads ac ar yr hen reilffordd o Brestatyn i Ddyserth yn golygu bod y camerâu hyn yn hygyrch i bawb yn rhai o’r lleoliadau mwyaf prydferth.
Mae’r prosiect yn gofyn i aelodau’r cyhoedd dynnu llun drwy’r camerâu hyn ac uwchlwytho’r llun i Instagram drwy ddefnyddio #CRDV_AONB i dagio eu llun i’r prosiect. Drwy wneud hynny bydd y lluniau yn ychwanegu at set ddata gynyddol ar-lein o luniau sy’n cyfleu’r newidiadau o ran y tymhorau, rheoli tir ac o ran yr hinsawdd yn y dirwedd drawiadol hon.
Uchelgais y prosiect yw, wrth i fwy o luniau gael eu hychwanegu dros amser, y bydd newidiadau yn y dirwedd yn dod yn amlwg wrth sgrolio drwy’r lluniau a dynnwyd mewn misoedd neu flynyddoedd gwahanol. Mae gan bob un o’r safleoedd a ddewiswyd y potensial i newid drwy arferion rheoli cadwraeth, boed hynny yn cael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol, rheoli coetir neu bori er lles cadwraeth.
Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy, a weinyddir drwy Lywodraeth Cymru a Tirweddau Cymru, yn rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf ar draws yr wyth o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru, sy’n eu galluogi i gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer byd natur, gan gyflymu datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd a darparu twristiaeth gynaliadwy.
Darllenwch fwy yma: Gosod camerâu hen ffasiwn – AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
