Landscapes Wales
Cyllid Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy wedi’i sicrhau am y tair blynedd nesaf

Cyllid Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy wedi’i sicrhau am y tair blynedd nesaf

Cyllid Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy wedi’i sicrhau am y tair blynedd nesaf

Mae 30 a mwy o brosiectau ar draws Tirweddau Dynodedig Cymru wedi derbyn cymorth ariannol am y tair blynedd nesaf.

Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy (SLSP) yn rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf cyhoeddus ar draws yr wyth o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru, sy’n eu galluogi i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur drwy waith ar fioamrywiaeth ac adfer byd natur, cyflymu datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd, a darparu twristiaeth gynaliadwy.

Roedd y cyfnod cyntaf o nawdd yn 2020-22 wedi ariannu dros 90 o brosiectau gwahanol. Mae symud i gronfa wedi’i dyrannu am dair blynedd yn galluogi’r Tirweddau Dynodedig i gynllunio’n fwy strategol a chyflawni prosiectau tymor hwy gyda phartneriaethau cryfach.

Mae’r gronfa SLSP yn cefnogi prosiectau sy’n cyflawni un neu fwy o bedair thema allweddol, sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a dibenion statudol a chyfrifoldebau allweddol yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol:

Hyrwyddo Bioamrywiaeth ac adferiad byd natur – gan gynnwys prosiectau sy’n gwella cysylltedd a gwydnwch ecosystemau mewn ardaloedd dynodedig, gan ddefnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Cyflymu Datgarboneiddio – drwy ddatgarboneiddio gweithgarwch ac asedau tuag at sero net, cynlluniau i alluogi datgarboneiddio mewn cymunedau gan gynnwys ynni adnewyddadwy priodol, a chynlluniau atafaelu carbon yn y dirwedd.

Cefnogi cymunedau Cydnerth a Gwyrdd – galluogi cyrff Tirweddau Dynodedig i gyflawni canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol neu economaidd ar gyfer eu cymunedau.

Darparu twristiaeth gynaliadwy – gan gynnwys lliniaru effeithiau negyddol gor-dwristiaeth, uwchraddio cyfleusterau a seilwaith ymwelwyr mewn ffordd amgylcheddol sensitif, cydnerth a pharhaol, helpu tirweddau i adfer ar ôl i batrymau twristiaeth newid yn ystod ac ar ôl Covid, ac addasu i hynny; a gwella a diogelu asedau diwylliannol a threftadaeth gwerthfawr.

Darllenwch y rhestr lawn o brosiectau a rhaglenni a ariennir yma: Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy – Cronfa Tirwedd: grantiau a ddyrannwyd [HTML] | LLYW.CYMRU