
Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy
Mae Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy yn cael ei ystyried yn un o’r tirweddau iseldir gorau ym Mhrydain. Fe’i dynodwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1971 i ddiogelu ei nodweddion arbennig, sy’n cynnwys ceunentydd calchfaen dramatig a choetiroedd brodorol, daeareg drawiadol, bywyd gwyllt cyfoethog a chyfoeth o hanes gan gynnwys bryngaerau, cestyll a’r Abaty Sistersaidd cyntaf yng Nghymru. Yn ganolog i’r cyfan mae’r afon Gwy, un o’r afonydd mwyaf naturiol ym Mhrydain, sy’n ymdroelli’n fawreddog trwy ffiniau Cymru/Lloegr.
Darllenwch fwy am Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy yma.