
Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn
Mae Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn yn ddynodiad arfordirol gan fwyaf yn cynnwys penrhynau creigiog a thraethau tywodlyd eang yn y gogledd, tra yn y de gwelir twyni tywod sy’n ymestyn draw at Fae Aberffraw ac Abermenai. Ymysg patrwm clytwaith y caeau sydd wedi eu rhannu gan waliau cerrig a gwrychoedd traddodiadol, mae siambrau claddu o’r Oes Efydd, meini hirion ac olion cytiau crynion o’r Oes Haearn. Mae ardaloedd awyr dywyll Ynys Môn wedi dod yn fwyfwy poblogaidd gan bobl sy’n hoff o wylio’r sêr, ardaloedd a gydnabyddir yn nodwedd o bwys. Mae Uned AHNE Ynys Môn yn cydweithio â Pharc Cenedlaethol Eryri ac AHNEau Gogledd Cymru er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r angen i ddiogelu ei awyr dywyll a hynny drwy ymgysylltu â’r cymunedau a’u cyfranogiad.
Darllenwch fwy am Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn yma.