Bydd haf 2026 yn cael ei gofio fel un o’r cyfnodau mwyaf heriol i Dirweddau Dynodedig Cymru. I’r pump o Dirweddau Cenedlaethol a thri Pharc Cenedlaethol sy’n diffinio cymaint o dreftadaeth naturiol Cymru, mae gwres estynedig, amodau sych a chyfres o danau gwyllt sylweddol wedi gadael effaith weledol a pharhaus. Ledled Cymru, mae gwasanaethau brys, staff Tirwedd Ddynodedig, rheolwyr tir a chymunedau lleol wedi cael eu gorfodi i ymateb i her eithriadol.
Cafwyd digwyddiadau difrifol ledled Cymru, gan gynnwys y Rhinogydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac o amgylch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; lle cafodd ardaloedd eang o fawndir, glawswelltir a choetir eu heffeithio. Mae ymatebion amlasiantaethol mawr yn cynnwys gwasanaethau tân ac achub, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill wedi dangos graddfa’r bygythiad yn ogystal â phwysigrwydd gweithredu cydlynol.
Mae’r goblygiadau amgylcheddol yn sylweddol. Mae Tirweddau Dynodedig Cymru yn cynorthwyo cynefinoedd a rhywogaethau rhyngwladol pwysig, gyda llawer ohonynt yn arbennig o agored i niwed gan danau gwyllt. Gall tanau ddinistrio safleoedd nythu, difrodi rhosydd a mawndiroedd bregus ac effeithio ar fioamrywiaeth mewn mater o oriau. Mae priddoedd mawn yn arbennig o bwysig o ganlyniad i’r nifer fawr o garbon maent yn eu storio; wrth iddynt losgi, mae’r carbon hwnnw’n cael ei ryddhau i’r atmosffer a gall adferiad gymryd nifer o flynyddoedd.
Mae’r effaith wedi cael ei deimlo gan gymunedau gwledig ac economïau lleol hefyd. Mae ffermwyr wedi colli tir pori a chyflenwadau porthi, mae trigolion wedi cael eu symud, wrth i fusnesau twristiaeth gael eu tarfu wrth i safleoedd poblogaidd i ymwelwyr gau dros dro er mwyn diogelwch y cyhoedd. Mae cost hirdymor yr adferiad yn ymestyn y tu hwnt i’r difrod uniongyrchol, gan effeithio ar fywoliaethau, cynefinoedd a gwytnwch cymunedol.
Ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, mae’r cyfnod sych estynedig wedi ysgogi’r Awdurdod i gynyddu ymwybyddiaeth o’r risg o dân ledled y Parc. Wrth i gyflwr y tir ddod yn sych fel carthen a thannau gwyllt yn dechrau ledled Cymru, cymerodd y staff fesurau rhagweithiol i leihau’r posibilrwydd o ddigwyddiadau ac i ddiogelu tirweddau sy’n agored i niwed.
Yn gynharach ym mis Gorffennaf, ymunodd tîm Ceidwaid Awdurdod y Parc â Heddlu Dyfed-Powys a Thîm Atal Tanau Bwriadol Gwasanaeth Tân a Gwasanaethau Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i batrolio Traeth Freshwater West ar y cyd. Canolbwyntiodd y patrôl ar ardaloedd sydd â risg uwch o danau gwyllt a lleoliadau sy’n nodedig am ymddygiad anghymdeithasol. Fe wnaeth y dull hwn o bartneriaeth helpu i godi ymwybyddiaeth, lleihau risg ac amddiffyn pobl a bywyd gwyllt.
Daeth realiti’r bygythiad yn eglur pan ymatebodd Ceidwaid i adroddiadau o fwg ger Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedwig Tŷ Canol. Wrth gyrraedd Carnedd Meibion Owen, cawsant hyd i dân yn llosgi ymysg y brigiadau creigiog. Gan fod y tân wedi lledaenu i fawn islaw, galwyd ar y Gwasanaeth Tân i’w ddiffodd yn llwyr. Credir fod y tân wedi deillio o dân gwersyll a oedd wedi’i ddiffodd yn flaenorol cyn ail gynnau yn ystod amodau sych a phoeth.
Mae’r digwyddiad hwn yn dangos pa mor sydyn y gall tân sy’n ymddangos yn fach waethygu i fod yn risg difrifol i’r dirwedd. Pe na bai’n cael ei ddarganfod a’i daclo’n brydlon, gallai’r tân fod wedi lledaenu ymhellach trwy gynefinoedd cyfagos, gan achosi difrod amgylcheddol sylweddol.
Yn Nhirwedd Genedlaethol Gŵyr, fe wnaeth tywydd sych estynedig a thymheredd uchel greu amodau lle gallai tân bach hyd yn oed ddatblygu’n ddigwyddiad difrodol yn gyflym iawn.
Yn gynharach yn 2026, ymatebodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i danau gwair a rhostir sylweddol ar y Gŵyr, gan gynnwys digwyddiadau yng Nghomin Fairwood a Chefn Bryn. Mae angen adnoddau ymladd tân sylweddol ar y tanau hyn ac maent yn pwysleisio bregusrwydd cynefinoedd rhyngwladol pwysig Gŵyr yn ystod cyfnodau estynedig o dywydd sych. Mae’r digwyddiadau yn atgoffa bod tirweddau sy’n cael eu gwerthfawrogi am eu harddwch naturiol, bywyd gwyllt a chyfleoedd hamdden yn fwyfwy agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol.
Mewn ymateb, cynyddodd sefydliadau ledled Gŵyr ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o risg tanau gwyllt, gan annog ymwelwyr i ddilyn cyngor diogelwch cefn gwlad ac osgoi gweithgareddau a allai gynnau tanau. Mae’r dull ataliol hwn yn adlewyrchu’r gwaith ehangach sy’n digwydd ledled Tirweddau Dynodedig Cymru, lle mae addysg, gweithio mewn partneriaeth ac ymyrraeth gynnar yn dod yn offer hanfodol i ddiogelu cynefinoedd sy’n agored i niwed.
Mae profiad Gŵyr yn dangos nad yw tanau gwyllt yn broblem i uwchdiroedd anghysbell yn unig bellach. Gall rhostir arfordirol, tir comin a glaswelltiroedd fod yr un mor agored i’r perygl pan mae amodau wedi troi’n eithriadol o sych. Mae diogelu’r tirweddau hyn yn gofyn am ymdrech ar y cyd gan reolwyr tir, gwasanaethau brys, cymunedau lleol ac ymwelwyr i leihau risg cyn i danau ddechrau.
Mae’r enghraifft hon, ochr yn ochr â’r ymateb ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r digwyddiadau mawr a welwyd ym Mharciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, yn dangos sut mae cyrff Tirwedd Ddynodedig ledled Cymru yn addasu i ddyfodol lle bydd gwytnwch tanau gwyllt yn chwarae rôl gynyddol bwysig wrth reoli tirwedd.
I’r Dyfodol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio bod amodau sych a thywydd sych estynedig wedi creu amodau perffaith i danau gwyllt ddatblygu a lledaenu’n gyflym ledled Cymru. Gyda disgwyl i newid yn yr hinsawdd gynyddu amlder digwyddiadau tywydd eithafol, mae meithrin gwytnwch ledled ein Tirweddau Dynodedig yn dod yn fwyfwy pwysig.
Mae ymdrechion wedi cynyddu i annog ymddygiad cyfrifol yng nghefn gwlad ledled Cymru. Wrth i amodau sych greu’r amgylchedd perffaith i danau ledaenu, mae’r rhan fwyaf o danau gwyllt yn y Du yn cael eu hachosi gan weithgarwch dynol, gan gynnwys cynnau tân yn fwriadol, tanau gwersyll, a barbeciw. Mae amodau poethach, sychach sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn gwaethygu’r digwyddiadau hyn, gan eu gwneud yn fwy difrifol ac anoddach i’w hatal.
Yn galonogol, mae’r ymateb yr haf hwn wedi tynnu sylw at gryfder cydweithio ledled Cymru. Mae diffoddwyr tân, ffermwyr, staff Tirwedd Ddynodedig, gwirfoddolwyr a sefydliadau cadwraeth wedi gweithio ochr yn ochr i amddiffyn rhai o’n lleoedd mwyaf gwerthfawr.
Mae haf 2026 yn ein hatgoffa’n bwerus bod diogelu Tirweddau Dynodedig Cymru yn gofyn am fwy nag ymateb i argyfyngau. Mae’n gofyn am fuddsoddiad mewn atal, adfer cynefin, dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd a gwytnwch hinsawdd. Wrth ddysgu o’r heriau eleni, gall Cymru helpu i sicrhau bod ei Thirweddau Cenedlaethol a’i Pharciau Cenedlaethol yn parhau i fod yn iach, yn hygyrch ac yn ffynnu ar gyfer cenedlaethau i ddod.
