Landscapes Wales
25% o Gymru, 100% o’n Dyfodol: Pam fod Tirweddau Cymru yn Bwysicach nag Erioed

25% o Gymru, 100% o’n Dyfodol: Pam fod Tirweddau Cymru yn Bwysicach nag Erioed

Mae chwarter Cymru – ein mynyddoedd, ein dyffrynnoedd, ein harfordiroedd, ein ffermydd a’n cymunedau – o fewn Tirweddau Dynodedig. Nid mannau anghysbell, sydd heb eu cyffwrdd mo’r rhain. Maent yn fannau lle mae pobl yn byw a gweithio, lle bydd penderfyniadau a wneir heddiw yn llunio llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

O gynhyrchu bwyd a gwytnwch llifogydd i dwristiaeth, ynni adnewyddadwy a hunaniaeth ddiwylliannol, mae’n amhosibl gwahanu dyfodol y tirweddau hyn oddi wrth Gymru ei hun. Wrth i newid yn yr hinsawdd gyflymu a byd natur ddirywio, mae’r lleoedd gwarchodedig hyn yn dod yn fannau hanfodol ar gyfer arloesi, cydweithio a meddwl yn yr hirdymor.

Dyna le mae Tirweddau Cymru yn chwarae rhan.

Tirweddau Cymru yw’r bartneriaeth rhwng tri Awdurdod Parc Cenedlaethol a phump o Dirweddau Cenedlaethol Cymru. Rydych yn darparu llais unigol, cyffredinol dros Dirweddau Dynodedig a rhwydwaith cyflawni ymarferol a phwerus ar gyfer gweithredu dros adfer byd natur, gwytnwch hinsawdd, twristiaeth gynaliadwy a chymunedau gwledig bywiog.

Nid dim ond mannau hardd i ymweld â nhw yw Tirweddau Dynodedig Cymru. Maent yn asedau cenedlaethol all helpu i fynd i’r afael â rhai’ o’r problemau mwyaf sy’n wynebu’r wlad: mewn sefyllfa unigryw fel partneriaid dibynadwy a chydlynwyr ar gyfer cyflawni gwaith yn seiliedig ar le ar draws ystod o sectorau, o fioamrywiaeth i iechyd ataliol.

Cyflawni sy’n Gwneud Gwahaniaeth

Mae buddsoddi cyfalaf a grant cymunedol mewn Tirweddau Dynodedig eisoes wedi galluogi cynnydd mewn datgarboneiddio, cyrchu gwelliannau ac adfer byd natur:

Cynorthwyo Ffermwyr a Chymunedau Gwledig: Drwy Ffermio Bro (Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig), rydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr a pherchnogion tir drwy rwydwaith o ymgynghorwyr lleol i gynorthwyo cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, cryfhau busnesau gwledig a chyflawni prosiectau lleol sy’n fanteisiol i fyd natur a chymunedau. Mae hwn yn gymorth ymarferol, dibynadwy wedi’i wreiddio mewn gwybodaeth leol.

Adfer Byd Natur: Mae Tirweddau Dynodedig yn gartref i lawer o gynefinoedd pwysicaf Cymru. Rydym yn ehangu gwaith adfer cynefinoedd, adfer rhywogaethau a grantiau wedi’u targedu i helpu adfer byd natur.

Meithrin Gwytnwch Hinsawdd: O fawndiroedd i arfordiroedd a dalgylchoedd afonydd, rydym yn cyflawni camau gweithredu gwirioneddol ym maes yr hinsawdd drwy atebion sy’n seiliedig ar fyd natur — gan leihau’r risg o lifogydd, adfer cynefinoedd sy’n gyfoethog mewn carbon a helpu ardaloedd gwledig sy’n agored i niwed addasu i hinsawdd sy’n newid.

Datgarboneiddio ein tirweddau: Rydym yn cynorthwyo ynni adnewyddadwy priodol, cynlluniau ynni cymunedol a theithio carbon isel i ymwelwyr, gan gynnwys seilwaith ceir trydan. Mae hyn yn helpu i leihau allyriadau wrth gryfhau economïau lleol.

Gwasanaeth Iechyd Naturiol – Gwella Iechyd a Llesiant i Bawb: Mae’r cael yr hawl i fyd natur yn bwysig. Rydym yn gwella llwybrau cerdded, llwybrau teithio actif, profiadau ymwelwyr ac awyr agored cynhwysol sy’n cefnogi llesiant corfforol a meddyliol pobl o bob oedran.

Cadarnleoedd Iaith a Diwylliant ac Ysbrydoliaeth Greadigol Cymru: Mae ein tirweddau yn sail i’n hunaniaeth Gymreig. Rydym yn helpu i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw ac amddiffyn a dathlu diwylliant ac amgylcheddau hanesyddol sy’n gwneud Cymru’n unigryw.

Economi Ymwelwyr sy’n Ffynnu: Mae economi ymwelwyr Cymru yn dibynnu ar dirweddau iach sy’n ffynnu. Rydym yn helpu i reoli cyrchfannau poblogaidd, cefnogi sgiliau gwyrdd a diogelu’r asedau gwledig mae cymunedau ac ymwelwyr yn dibynnu arnynt.

Cryfhau Gwytnwch Gwledig ac Effaith Gymdeithasol: rydym yn chwarae rhan bwysig yn helpu cymunedau gwledig addasu a ffynnu wrth gefnogi sgiliau lleol, mentrau cymunedol a chysylltiadau cryf â lle. Rydym yn creu effaith gymdeithasol barhaol wrth gynnal bywoliaethau, lleihau unigedd a gwella’r hawl i gyfleoedd, wrth ddod â phobl ynghyd i gydweithio a llunio dyfodol mwy cynaliadwy.

Ysbrydoli Pobl Ifanc ac Ehangu Cyfle: rydym yn cefnogi pobl ifanc drwy ddysgu cymhwysol yn yr awyr agored, defnyddio mentrau fel Tirlun i feithrin hyder, gwytnwch a chysylltid â lle wrth helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â thlodi plant.

Mae yna uchelgais a rennir i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru’n gallu cael profiad o Barc Cenedlaethol neu Dirwedd Genedlaethol cyn gadael yr ysgol gynradd, gan gyflwyno cyfleoedd ar gyfer lles, dysgu a dyfodol mwy teg.

Gweithio Gyda’n Gilydd dros Ddyfodol Cymru

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid a chymunedau i gyflawni’n uchelgeisiol a gyda’n gilydd ar draws blaenoriaethau cyffredin, gan gynnwys adfer byd natur, gwytnwch hinsawdd cryfach, manteision cymunedol o’r trawsnewid gwyrdd a thwristiaeth gynaliadwy yn y llefydd yr ymwelir â hwy fwyaf.