Mae Mis Cerdded Cenedlaethol yn cael ei gynnal ym mis Mai, ymgyrch sy’n annog pobl i fynd allan a mwynhau’r manteision niferus y mae cerdded yn ei gynnig. Gall cerdded, hyd yn oed am gyfnodau byr, roi hwb i’n hiechyd corfforol, codi ein hwyliau, a’n helpu i deimlo’n fwy cysylltiedig â’r byd o’n cwmpas.
Mae cerdded yn ffordd effeithiol ond syml iawn o leihau straen, clirio’ch pen a gwella’ch hwyliau. Ac yma yng Nghymru, rydyn ni’n hynod ffodus iawn o gael tirweddau hardd ac amrywiol ar garreg ein drws.
I’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar Fis Cerdded Cenedlaethol, rydym am argymell ambell daith cerdded yn ein Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol.
Teithiau Cerdded i Fwynhau Natur
Parc Cenedlaethol Eryri: Pontydd Betws-y-Coed
Taith gylchol hardd drwy goetir ac ar hyd afonydd Llugwy a Chonwy. Byddwh yn dod ar draws bontydd cerrig a’r Rhaeadr Ewynnol enwog wrth i gerdded yn y pentref bychain sy’n borth i Eryri.
TC Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: Llwybr Pontystyllod, Llandegla
Mae’r daith hwn yn berffaith ar gyfer teuluoedd ac yn mynd â chi trwy goetir, heibio adfeilion hen felin, ac ochr yn ochr â nant heddychlon. Taith gerdded fer berffaith am funud dawel ym myd natur.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Cylchdaith Pen-Wyllt
Cylchdaith 6.4km o hyd sy’n llawn treftadaeth diwydiannol a golygfeydd ysgubol o’r ucheldir. Archwiliwch hen dramffyrdd a gweithfeydd chwarel tra’n cael eich hamgylchynu gan harddwch y parc cenedlaethol.
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Penrhyn Marloes
Mwynhewch olygfeydd o glogwyni dramatig, ynysoedd a’r môr agored ar y llwybr trawiadol hwn. Yn wastad a glaswelltog ary cyfan dan draed, mae’n ffordd wych o archwilio un o bentiroedd harddaf Sir Benfro.
TC Ynys Môn: Cylchdaith Llaneilian
Bydd golygfeydd arfordirol, eglwysi hynafol, a goleudy drawiadol Point Lynas I’w mwynhau ar y daith hon, gan gynnig llawer mewn taith gymharol fer 5km o hyd!
TC Dyffryn Gwy: Taith Gerdded Bannau Trellech
Cylchdaith ar Fannau Trellech gyda golygfeydd godidog dros Ddyffryn Gwy, a golygfeydd o Goedwig Dean, y Malverns a hyd yn oed y Cotswolds ar ddiwrnod clir.
Camwch i’r Awyr Agored a Theimlwch y Gwahaniaeth
P’un a yw’n ddeg munud o amgylch y bloc neu’n benwythnos yn archwilio llwybrau newydd, gall cerdded ddod â thawelwch, eglurder a llawenydd I’ch bywyd. Felly ym mis Mai, rhowch eich esgidiau ymlaen, anadlwch yr awyr iach, a mwynhewch y harddwch sydd gan Dirweddau Dynodedig Cymru i’w gynnig!
