Landscapes Wales
Cystadleuaeth ffotograffiaeth Tirweddau Cymru

Cystadleuaeth ffotograffiaeth Tirweddau Cymru

Enillodd llun Tirweddau Genedlaethol Ynys Môn y brif wobr yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth Tirweddau Cymru.

Llun o Eglwys Cwyfan ar Dirweddau Genedlaethol Ynys Môn enillodd y brif wobr yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth Tirweddau Cymru 2024.

Llongyfarchiadau i Don Cardy, a’i lun sydd wedi dal prydferthwch tirwedd Ynys Môn i’r dim. Defnyddir y llun buddugol ar glawr calendr 2025 Tirweddau Cymru Landscape Wales, ac fel prif lun Tirweddau Cenedlaethol Ynys Môn.

 

Mae Don hefyd wedi derbyn taleb ffotograffiaeth gwerth £100 ar gyfer siop o’i ddewis ef.

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran. Gellir gweld oriel o’r ymgeiswyr o’r lluniau o’r tirweddau isod.
Bydd Calendr Tirweddau Cymru 2025 ar gael ar ddiwedd y flwyddyn, felly cadwch olwg er mwyn cael eich calendr chi.