Landscapes Wales
Cynnal 20fed gwersyll Ceidwaid Ifanc Rhyngwladol Ffederasiwn EUROPARC yng Nghymru!

Cynnal 20fed gwersyll Ceidwaid Ifanc Rhyngwladol Ffederasiwn EUROPARC yng Nghymru!

Pleser i TCLW oedd cael cyfle i weithio mewn partneriaeth gydag EUROPARC (About us – EUROPARC Federation) a Thirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i gynnal 20fed gwersyll Ceidwaid Ifanc Rhyngwladol EUROPARC rhwng 20-27 Gorffennaf 2024. Daeth oddeutu 30 o geidwaid ifanc (14-17 oed) a 10 o fentoriaid ynghyd o bob rhan o Ewrop, yn cynnwys Sweden, Estonia, Latfia, yr Eidal, Denmarc, yr Almaen a’r Iseldiroedd, gan gyfarfod yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Bryntysilio yn Llangollen i archwilio’r thema ‘Tirweddau ar gyfer y dyfodol’, lle cawsant gyfle i gyfnewid syniadau, dathlu amrywiaeth a dysgu am Dirweddau Gwarchodedig ledled Ewrop. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys noson cyfnewid bwyd rhyngwladol, gwaith cadwraeth ymarferol, celfyddyd arbrofol, rafftio dŵr gwyn a thrip i Barc Cenedlaethol Eryri. Sicrhawyd bod yr holl weithgareddau’n canolbwyntio ar gadwraeth, cysylltu â natur a grym llais ieuenctid.

Gweler yma i weld adroddiad llawn am y gwersyll a rhagor o luniau a dynnwyd yn ystod yr wythnos: 2024 International Junior Ranger Camp – EUROPARC Federation

Llwyddwyd i wneud cyfeillion newydd o bob cwr o Ewrop, a bu’r digwyddiad yn gyfle gwych i gysylltu llais ieuenctid a phethau a ddysgwyd ledled Cymru ac Ewrop, a hefyd llwyddwyd i ysgogi’r camau nesaf ar gyfer Rhwydwaith Ieuenctid TCLW. Mae Rhwydwaith Ieuenctid TCLW yn cynnwys staff o’r 8 Tirwedd Ddynodedig yng Nghymru sy’n gyfrifol am raglenni ieuenctid, ac mae’n rhywle ar gyfer cysylltu, cynnig cymorth a rhannu pethau a ddysgir – oherwydd mae’r holl dirweddau wedi cyrraedd cam gwahanol yn eu siwrnai ieuenctid. Hefyd, mae’n cynnig cyfle i archwilio rhagor o ffyrdd y gall tirweddau fynd i’r afael â nhw i gydweithio ar raglenni ieuenctid, megis cyfnewid ceidwaid ifanc.