Mae TCLW yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn cynhyrchu colofn reolaidd ar gyfer y gymuned ‘All the Elements‘ – cymuned ddi-elw sy’n gweithio i gynyddu amrywiaeth yn yr awyr agored.

Ar gyfer y golofn gyntaf, mae Anna Jones yn rhoi gwibdaith o’i gwaith. Gallwch ddod o hyd i’r golofn hon: Beth yw ‘Tirweddau Cymru’? Tirweddau i Bawb – All the Elements. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd Anna yn rhannu mwy o fanylion am brosiectau, dulliau gweithredu a pholisïau penodol sy’n cael effaith ar fynediad ar lawr gwlad yng Nghymru.
Mae cymaint o bobl yn gweithio’n galed ar newid y systemau awyr agored yng ngwledydd Prydain, ond weithiau nid yw’r cymunedau yn gweld y gwaith sy’n digwydd ar lefel y Llywodraeth ac ar lefel strategol. Gobaith TCLW yw y bydd y llythyrau hyn gan ein tirweddau yn dangos i’r cymunedau y modd yr ydym yn arwain y ffordd yng Nghymru ac yn adeiladu cysylltiadau ystyrlon.
