Estynnodd Emyr Williams, Cadeirydd ymadawol Tirweddau Cymru, groeso i fynychwyr o bob cwr o Gymru wrth iddynt ddod ynghyd i archwilio rôl Tirweddau Dynodedig yn yr argyfwng hinsawdd.
Bu Seminar Tirweddau Cymru Landscapes Wales, a gynhaliwyd yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mangor ar 16 ac 17 Mai, yn gyfle i gael golwg fanylach ar Ddatgarboneiddio Tirweddau Dynodedig Cymru, yn dilyn gwaith a wnaed gan Small World Consulting ar ran yr wyth o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru.
Cafodd y mynychwyr gyfle i glywed gan y canlynol:
- Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Gwyliwch yma.
- Dr Prysor Williams, Prifysgol Bangor. Cyflawni Sero Net mewn Systemau Amaethyddol. Cyflwyniad ar gael yma.
- Meleri Davies. Prif Swyddog Gweithredol Partneriaeth Ogwen. Ategu adfywio cynaliadwy yn Nyffryn Ogwen. Cyflwyniad are gael yma.
- Catherine Mealing-Jones a Liz Hutchins, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cyflwyniad i’r Ras at Sero. Cyflwyniad are gael yma.
- Jon Parker, Y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad. Blaenoriaethu pobl a lleoedd mewn fframwaith defnydd tir amlddefnydd: Defnyddio Fframwaith Defnydd Tir Amlddefnydd wrth wneud penderfyniadau. Cyflwyniad are gael yma.
Ymunodd y mynychwyr â sesiynau gweithdy’n ymwneud â’r canlynol:
- Y Ras at Sero; y camau ymarferol nesaf ar gyfer eich tirwedd – Catherine Mealing-Jones a Liz Hutchins, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cyflwyniad are gael yma.
- Cydraddoldeb a Chyfiawnder yn Nhirweddau Dynodedig Cymru; yr hyn y mae Pontio Teg yn ei olygu i’r Gymru wledig – Dr Sara MacBride-Stewart, Prifysgol Caerdydd ac Anna Jones, Tirweddau Cymru. Cyflwyniad are gael yma a yma.
- Siwrnai Cyfoeth Naturiol Cymru o ran datblygu hyfforddiant llythrennedd carbon – Mefty Haider, Cynghorydd Arbenigol ar Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio, Cyfoeth Naturiol Cymru.
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad deuddydd, dyma a ddywedodd Andrew Blake, Rheolwr Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy a Chadeirydd Etholedig Tirweddau Cymru Landscapes Wales: “Yn dilyn cyflwyniad Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid teg ar gyfer Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol, yn cynnwys cyllid craidd ar gyfer Tirweddau Cenedlaethol a pharhad y gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy. Awn ati i sicrhau cymorth parhaus ar gyfer staff a phartneriaeth Tirweddau Cymru Landscapes Wales, sy’n cyfrannu at waith yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan sicrhau Pontio Teg, Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth a datgarboneiddio.
Ychwanegodd Andrew: “Pleser yw cael ysgwyddo rôl Cadeirydd Tirweddau Cymru Landscapes Wales ac estyn croeso i Catherine Mealing-Jones, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a fydd yn mynd i’r afael â swydd yr Is-gadeirydd. Fel Partneriaeth, bydd Tirweddau Cymru Landscapes Wales yn sicrhau cyswllt, cydlyniant a chefnogaeth y ddau Ysgrifennydd Cabinet, sef Julie James AS, ar Barciau Cenedlaethol a Huw Irranca-Davies AS, ar Dirweddau Cenedlaethol. Byddwn yn archwilio cyfleoedd ar gyfer Cyllid gwyrdd, yn arbennig felly trwy Bartneriaeth y Parciau Cenedlaethol a Chymdeithas y Tirweddau Cenedlaethol – tîm Atebion Seiliedig ar Natur.
“Rydym wedi dechrau creu cysylltiadau a chyfnewid gwybodaeth gyda’r Protected Landscape Partnership (PLP) yn Lloegr, yn cynnwys integreiddio a chydweithio â Llwybrau Cenedlaethol – a’n bwriad yw parhau i wneud hyn. Hefyd, byddwn yn parhau i ddatblygu ein cydberthnasau gweithio a’n rhwydweithiau a byddwn yn dal ati i rannu arferion da, yn cynnwys mewn seminarau eraill yn y dyfodol.”
