Oeddet ti’n gwybod mae gan Gymru ei fersiwn ei hun o Ddydd San Ffolant, sef Dydd Santes Dwynwen?
Pwy oedd Santes Dwynwen?
Tywysoges Gymreig o’r 4edd ganrif oedd Dwynwen, oedd yn byw yn lle’r ydym ni’n ei alw nawr yn Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ni chafodd Dwynwen rhyw lawer o lwc â chariadon ac felly fe benderfynodd fod yn lleian.
Trodd Dwynwen yn lleian a sefydlu lleiandy ar Ynys Llanddwyn, llecyn bach hardd ar Ynys Môn. Ystyr ei henw yw ‘merch â’i bywyd wedi ei fendithio’.

Llun gan illustration by Jonathan Edwards
Darganfyddwch fwy am nawddsant cariadon Cymru, Santes Dwynwen, ei chysylltiad â’n Tirweddau Cymreig a’r diwrnod arbennig a gysegrwyd i gariad yng Nghymru. Darllen fwy yma.
